Eisteddfod Genedlaethol

Eisteddfod Bro Morgannwg 2012

Daeth y Côr yn fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Morgannwg ym mis Awst eleni yn y gystadleuaeth i Gorau Meibion dan 45 mewn nifer.

 Y darn prawf oedd ' Y Cennin Aur' gan Mansel Thomas a dyfarnodd y beirniaid, sef Richard Elfyn Jones a Lynn Davies mai i Langwm y dylai'r cwpan fynd eleni! Buddugoliaeth ar ôl blynyddoedd o gystadlu a dod yn agos nifer o weithiau. Bu'n werth y siwrnai hir i lawr i Forgannwg a chafwyd amser da iawn yn dathlu! Cynhaliwyd parti i ddathlu ar benblwydd Llywydd y Côr ar fferm Disgarth Isa'! Ymlaen i Eisteddfod Dinbych yn awr! 

Newyddion Diweddaraf

Santiago de Compostela

Ein trip diweddaraf oedd i ddinas hynafol Santiago de Compostela yn Galisia, Gogledd Sbaen.  Cawsom yr anrhydedd o ganu yn yr eglwys gadeiriol hardd yno ym mhrif wasanaeth y dydd  i gyfarch y pererinion. Profiad unigryw a bythgofiadwy.   Yna aethom i aros yn Cangas do Morrazo, nepell o Vigo, lle cymerasom ran mewn cyngerdd mawreddog a drefnwyd ar y cyd gan Gôr  Cymysg Coral Lestonnac  a Dawnswyr Lamranzas da Ria o dde

Darllenwch fwy..

*

Digwyddiadau