Gem Rygbi

Stadiwm y Mileniwm

Ddydd Sadwrn Mawrth 12fed buom yn canu yn y gem rygbi Cymru/ Iwerddon.

Cawsom gwmni Côr Godre'r Aran a Chantorion John Daniel, wps, Colin Jones! Roedd y canu'n fendigedig - llawn gwell na'r chwarae, er ein bod wedi ennill y gêm!

Cawsom drafferth mawr i gadw Ffranc yn ei sêt - roedd mor awyddus i gael ei gap cyntaf a bron â marw eisiau mynd i helpu sgwad Cymru i daclo'r Gwyddelod!

Ar y cae buom yn canu Gwahoddiad, Llanfair,(dyma'r ddwy gan orau ond doedd fawr o gynnulleidfa ar y maes ar y pryd) Sosban Fach, We'll keep a welcome, Delilah a'r ffefryn- Fields of Athenry.

Bu llawer mwy o ganu yn yr Angel yn dilyn y gêm, a phawb wedi mwynhau yn arw.

Gobeithio fod minibws Gwyn New Siop wedi cyrraedd adre cyn y wawr!

Diolch i bawb am ddysgu'r caneuon mor dda - ac am ganu'r nodau cywir ym mhob un!

Diolch i Llyr am drefnu popeth, gan gynnwys y minibws.

Diolch i Alun, Trystan, Ffranc a'r criw fu yn y Mochyn Du yn cymeryd rhan yn y rhaglen ar Radio Cymru - er nad oeddllawer o waith eu perswadio!

Diolch i Dewi am ofalu am y jacedi - a llawer o ddiolch i Brodwaith, Pentrefoelas am wneud gwaith gwerth chweil arnynt.

Mwy o luniau yn y Galeri.....

Edrychwn ymlaen am y tro nesa' rwan....

Newyddion Diweddaraf

Santiago de Compostela

Ein trip diweddaraf oedd i ddinas hynafol Santiago de Compostela yn Galisia, Gogledd Sbaen.  Cawsom yr anrhydedd o ganu yn yr eglwys gadeiriol hardd yno ym mhrif wasanaeth y dydd  i gyfarch y pererinion. Profiad unigryw a bythgofiadwy.   Yna aethom i aros yn Cangas do Morrazo, nepell o Vigo, lle cymerasom ran mewn cyngerdd mawreddog a drefnwyd ar y cyd gan Gôr  Cymysg Coral Lestonnac  a Dawnswyr Lamranzas da Ria o dde

Darllenwch fwy..

*

Digwyddiadau