achosion da lleol

Achosion Da

Nos Lun Mehefin 25ain croesawyd Huw Llainwen a’r teulu, a Brei (Yogi) ac Ilan i'r ymarfer yn y Neuadd. Cyflwynwyd sieciau am £1,130 yr un i Huw ac i Yogi – sef elw’r Cyngerdd a gynhaliwyd ym Mai yn Ysgol y Berwyn gyda Band yr Oakley.  Cafwyd orig ddifyr iawn yn eu cwmni – Yogi yn ddigon ffraeth efo Dewi Disgarth a daeth Ilan â’r dorch Olympaidd i’w dangos i ni. Roedd Huw Llainwen yn ysu am fynd adref i weld y gem beldroed ond arhosodd y ddau deulu i wrando ar y Côr yn canu am awr golew. Hoffai’r Côr ddiolch o galon i bawb a gefnogodd y Cyngerdd ac i Fand yr Oakley am eu cyfraniad hwythau i noson fythgofiadwy yn Ysgol y Berwyn. Diolch hefyd i Bedwarawd yr Aelwyd - sef Iw Jiw, Sion, Gwynant ac Elgan am ganu cân yn arbennig a swyno pawb yn y gynnulleidfa!

Cyf;wyno sieciau

Newyddion Diweddaraf

Santiago de Compostela

Ein trip diweddaraf oedd i ddinas hynafol Santiago de Compostela yn Galisia, Gogledd Sbaen.  Cawsom yr anrhydedd o ganu yn yr eglwys gadeiriol hardd yno ym mhrif wasanaeth y dydd  i gyfarch y pererinion. Profiad unigryw a bythgofiadwy.   Yna aethom i aros yn Cangas do Morrazo, nepell o Vigo, lle cymerasom ran mewn cyngerdd mawreddog a drefnwyd ar y cyd gan Gôr  Cymysg Coral Lestonnac  a Dawnswyr Lamranzas da Ria o dde

Darllenwch fwy..

*

Digwyddiadau