Cor Meibion Llangwm
Cor Meibion Llangwm
(Llun trwy garedigrwydd Lluniau Llwyfan)
Cartref Côr Meibion Llangwm ydi pentref Llangwm, ger Corwen, Gogledd Cymru (LL21 0RA).
Ein Ymarferion
Cynhelir ein ymarferion ar nos Lun rhwng 8pm a 10pm yng Nghorlan Ddiwylliant Llangwm.
Mae Croeso Cynnes i aelodau newydd!
Croesewir aelodau newydd o bob oed i ddod i ganu efo ni.
Mae croeso hefyd i ymwelwyr daro i mewn i wrando.
Ein Cyfarwyddwr Cerdd
Ein cyfarwyddwr cerdd yw Bethan Smallwood B.Mus.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gysylltu â ni, ewch i'r dudalen gyswllt Cysylltwch â Cor Meibion Llangwm
Diolch
https://twitter.com/CorLlangwm
Ble mae cartref y côr?
Newyddion Diweddaraf
Santiago de Compostela
Ein trip diweddaraf oedd i ddinas hynafol Santiago de Compostela yn Galisia, Gogledd Sbaen. Cawsom yr anrhydedd o ganu yn yr eglwys gadeiriol hardd yno ym mhrif wasanaeth y dydd i gyfarch y pererinion. Profiad unigryw a bythgofiadwy. Yna aethom i aros yn Cangas do Morrazo, nepell o Vigo, lle cymerasom ran mewn cyngerdd mawreddog a drefnwyd ar y cyd gan Gôr Cymysg Coral Lestonnac a Dawnswyr Lamranzas da Ria o dde
