hanes Cor Meibion Llangwm

Cefndir

Hanes

Sefydlwyd Côr Meibion Llangwm yn 1930 er mwyn cystadlu yn y gystadleuaeth i gorau meibion yn yr Eisteddfod leol yn Llangwm. Ers y dyddiau hynny ni fu ond 5 arweinydd a 2/3 cyfeilydd gwahanol i'r côr. Mae tua 40 aelod ynddo yn dod o ardaloedd cyfagos, y rhan fwyaf o gefndir amaethyddol a phawb yn siarad Cymraeg. Côr Meibion Llangwm enillodd y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych 2013, a hefyd y flwyddyn ganlynol ym Mro Morgannwg.

Ein Teithiau

Mae'r côr yn cynnal cyngherddau ar hyd a lled Gogledd Cymru, ac hefyd yn teithio ymhellach, fel bo'r galw. Mae'r côr yn cystadlu mewn eisteddfodau bach a mawr, ac yn rheolaidd yn yr Eisteddfod Genedlaethol lle cafwyd llawer o lwyddiant a gwobrau.Cynhelir cyngherddau at achosion da hefyd yn flynyddol fel y gwelwch oddi wrth ein tudalen Digwyddiadau.

Mae'r côr wedi trafeilio ymhellach na'r Deyrnas Unedig i ddiddanu cynnulleidfaoedd. Ymwelwyd a Bafaria ac Awstria dair gwaith i gyda gwnaed ffrindiau am oes gyda Chor 'Sangerrunde Mittich’ o dde Bafaria. Bu'r cor hefyd yn Sbaen,Jersey ac yn y Gymanfa yn Ontario, Canada.

Teithiodd y côr i'r Alban i ddiddanu cynnulleidfaoedd nifer o weithiau. Cafwyd gwahoddiad i ganu yn yr Wyl fyd-enwog, 'Celtic Connections' yn Glasgow ddwy waith. Yn 1995 cafwyd gwahoddiad i ganu yng Ngwyl Gerddorol Geltaidd Ynys Arran lle y rhannwyd llwyfan â'r gantores Geltaidd Mair MacInnes. Swynwyd y côr gan ei llais arbennig ac estynwyd gwahoddiad iddi i ymuno â'r côr i ganu cân ar eu disg. Y gân a ddewiswyd oedd 'Ysbryd y Gael', cyfieithad o gan Mairi ei hun 'This Feeling Inside' a gyfansoddwyd gan Mairi ei hun a bu'n llwyddiant ysgubol ar unwaith. Bu'n un o'r caneuon mwyaf poblogaidd gan gorau meibionar raglenni radio Cymru, ac yn ôl Dafydd Iwan, o gwmni Sain, bu'n un o'r disgiau mwyaf poblogaidd a werthwyd. Clywir hi bron yn wythnosol ar raglen geisiadau Dai Jones ar nos Sul.

Repertoire y Côr

Mae repertoire y côr yn cynnwys amrywiaeth eang o gerddoriaeth yn ymestyn o gytgannau clasurol, trefniannau o emynau poblogaidd, caneuon gwerin traddodiadol, i ganeuon o sioeau cerdd a cherddoriaeth gyfoes Gymreig.

Mae ein repertoire yn adlewyrchu datblygiad canu corawl yng Nghymru heddiw ac yn cynrychioli diwylliant cerddorol Cymru ar ei orau.

Bethan Smallwood B.Mus

Bethan Smallwood yw arweinyddes Côr Meibion Llangwm; fe'i ganed yn Llangwm ar fferm Bryn Ffynnon. Bu cerddoriaeth yn rhan annatod o'i magwraeth a bywyd bob dydd yn Llangwm gydag Adran yr Urdd lewyrchus oedd yn cystadlu yn gyson yn Eisteddfodau'r Urdd, ran fwyaf dan arweiniad y canwr gwerin enwog Emrys Jones, Pen y Bont. Yna yn Ysgol y Berwyn bu bri mawr ar ganu corawl dan arweiniad Llywela Roberts a Diana Davies gan gystadlu ar raddfa genedlaethol; cynhelid llawer iawn o weithgareddau hefyd dan nawdd Aelwyd Llangwm.

Astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor gyda William Mathias a Smith Brindle a derbyniodd radd Baglor mewn Cerddoriaeth ym1970, gan ddilyn cwrs Diploma mewn Addysg ym Mhrifysgol Caerydd. Bu'n Bennaeth yr Adran Gerdd yn Ysgol y Berwyn am nifer o flynyddoedd ac yn fwy diweddar yn dysgu cerdd mewn ysgolion cynradd yr ardal.

Bu'n arweinyddes a chyfarwyddwr cerdd Côr Meibion Llangwm ersEbrill 1974pan nad oedd ond rhyw 25 o aelodau. Gwelwyd y cor yn cynnyddu mewn nifer a'r repertoire yn newid i gynnwys llawer mwy o amrywiaeth o ddarnau. Yn 1977 y bu i'r cor gystadlu yn y Genedlaethol am y tro cyntaf. Mae hi o'r farn mai gwaith caled, ynghyd ag ymroddiad a disgyblaeth bersonol sydd i gyfri am lwyddiannau'r cor a'r safon uchel y perfformiadau.

Rhian Jones

Is-arweinyddes Côr Meibion Llangwm yw Rhian Jones a hi yw is-gyfeilyddes y côr hefyd.

Mae Rhian yn hannu o ardal Rhosygwaliau, y Bala, ac wedi mynychu Ysgol y Berwyn. Astudiodd yng Ngholeg Addysg Coleg Bangor gan ddilyn gyrfa fel athrawes. Hi yw Prifathrawes mewn gofal yr ysgol leol, Ysgol Llangwm, ar hyn o bryd, gan arbenigo mewn gweithgareddau cerddorol sy'n gymaint rhan o fywyd yr ysgol hon.

Mae'n arbenigwraig ar osod Cerdd Dant ac wedi dysgu llawer o blant ac oedolion i fwynhau'r dull arbennig hwn o ganu. Arferai ganu ei hun, ac enillodd lawer o wobrau yn y genedlaethol am ganu Cerdd Dant. Mae galw mawr am ei gwasanaeth fel beirniad yn lleol a chenedlaethol.

Gwerfyl Williams

Gwerfyl Williams yw cyfeilydd y côr ers ymddeoliad Ellen Ellis. Mae wedi cyfeilio i amryw o gorau lleol ac mae galw mawr am ei gwasanaeth fel cyfeilydd mewn eisteddfodau ledled y wlad. Mae wedi ymddeol o'i gwaith yn y banc ac yn brysur iawn yn lleol yn rhoi gwersi piano a chyfeilio.

Trebor Lloyd Evans

Unawdydd y côr yw Trebor Lloyd Evans sydd hefyd yn aelod o'r côr ers symud yn ôl i Langwm i fyw. Ganed ef yn Gwern Nannau, Llangwm,a bu'n aelod ifanc o'r Côr Meibion a Pharti Cwm Eithin nes aeth ei waith fel Rheolwr Banc ag ef i fyw ymhellach.

Mae llais Bariton da ganddo, a bu'n cystadlu mewn eisteddfodau bach a mawr ledled Cymru am flynyddoedd. Enillodd amryw o gystadleuthau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, fel bas ac fel bariton. Bu'r flwyddyn 2009 yn llwyddiannus iawn iddo gan iddo ennill y Rhuban Glas i unwadwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala - ac yntau yn drysorydd yr Eisteddfod yn ogystal.

Newyddion Diweddaraf

Santiago de Compostela

Ein trip diweddaraf oedd i ddinas hynafol Santiago de Compostela yn Galisia, Gogledd Sbaen.  Cawsom yr anrhydedd o ganu yn yr eglwys gadeiriol hardd yno ym mhrif wasanaeth y dydd  i gyfarch y pererinion. Profiad unigryw a bythgofiadwy.   Yna aethom i aros yn Cangas do Morrazo, nepell o Vigo, lle cymerasom ran mewn cyngerdd mawreddog a drefnwyd ar y cyd gan Gôr  Cymysg Coral Lestonnac  a Dawnswyr Lamranzas da Ria o dde

Darllenwch fwy..

*

Aelodau’n unig

Gall aelodau fynd i mewn yma ar gyfer negeseuon ayyb