Taith Côr Meibion Llangwm i Ganada 2010

Taith Cor Meibion Llangwm i Ganada 2010

Wedi’r siom o fethu ymweld â Chanada yn 2001 oherwydd y clwy’ traed a’r genau, a’r llwch folcanig yn hofran uwch ein pennau y tro hwn, rhyddhad mawr oedd cael camu i’r awyren yn Manceinion o’r diwedd a gadael am Doronto. Dinas fawr fodern yn tyfu o hyd gyda gwaith adeiladu yn mynd ymlaen ymhob cwr ohoni. Aeth popeth yn iawn nes cyrraedd swyddogion y tollau a’u holi dibendraw a chadwyd un dyn bach yn ôl am hydoedd lawer, efallai am fod golwg amheus arno! Wedi glanio, cafodd un o’r criw neges destun gan ei fab ‘Ar y ffordd i’r ysgol rwan, mam wedi cael efeilliaid’. ‘Doedd dim posib’ dianc oddi wrth yr hen ddefed ac wyn!

Ein llety am y tridiau nesaf oedd gwesty 30 llawr y Delta Chelsea yn nghanol Downtown Toronto, man cyfleus iawn i ymweld â holl atyniadau y ddinas. Bu’n weddol hawdd addasu i’r newid amser, heblaw am un ffarmwr o Gwmpenanner a anghofiodd newid ei oriawr, a chododd yn brydlon i ymolchi a gwisgo a hithau ond 2 o’r gloch y bore yno!

Treuliwyd y diwrnod cyntaf ar daith mewn bws o gwmpas Toronto, gyda’r tywysydd yn dangos inni rai o ryfeddodau’r ddinas gan ddiweddu yn Nhwr CN, yr hwn arferai fod y twr uchaf yn y byd cyn i’r un anferthol gael ei godi yn Dubai! ‘Roedd mynd i ben hwn yn brofiad ynddo’i hun, a gan fod y tywydd mor glir, gallem weld adeiladau uchel Niagara Falls yn y pellter ar draws Llyn Ontario.

Ddydd Mercher aethom i Ysgol Markville i gadw cyngerdd i ryw 300 o fyfyrwyr Cerdd mewn ysgol o tua 1500 o ddisgyblion, lle roedd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn ddwyieithog, a llawer â tair iaith. ‘Roedd canu i’r gynulleidfa yma yn un o uchafbwyntiau’r daith, gan mor wresog a brwdfrydig oedd eu hymateb. Cafodd Treb ein hunawdydd dderbyniad ardderchog gan y criw ifanc. Yn y prynhawn aeth y mwyafrif i grwydro Chinatown, Greektown ac ymweld ag amgueddfeydd enwog y ddinas, yn cynnwys Amgueddfa Esgidiau – gan deithio’n hwylus o un lle i’r llall ar y ‘streetcar’ (sef y tram).

Dydd Iau oedd diwrnod i gerdded siopau Toronto, wel i’r merched beth bynnag, a rhyfeddu at ganolfan siopa yr Eaton Centre anferthol dan ddaear. Ond gyda gwerth y bunt yn gostwng, nid oedd llawer o fargeinion i’w cael! Cynhaliwyd cyngerdd fin nos yn Eglwys Mennonite Danforth ac er nad oedd y gynulleidfa yn niferus iawn, roedd y canu, y gwrandawiad a’r croeso yn fendigedig.

Daeth yn amser i symud o Doronto i Stratford, sef tref dipyn llai yn nes i’r gorllewin lle y cynhelid Cymanfa Ganu Ontario eleni. Y gwahoddiad i ganu yn y Gymanfa hon oedd y rheswm dros ein hymweliad â Chanada eleni - Cymanfa sy’n symud ei lleoliad o fewn y dalaith bob 3 mlynedd. Ar y ffordd yno aethom i ymweld â fferm odro yn Moorfield, lle ‘roedd y buchod yn cael eu godro gan robot. Roeddem yng nghanol ardal y Mennonites yma ac wrth drafeilio, gwelsom ffermydd cynhyrchiol a hynod daclus y sect hon o bobl sy’n weithwyr caled ar y tir, heddychwyr sy’n gwrthod cyfrannu trethi tuag at arfau rhyfel ac sy’n ymwrthod â datblygiadau y byd modern. Nid oes ganddynt drydan yn eu tai – dim ond i’r beudai i odro’r gwartheg. Gwelir hwy yn teithio gyda ceffyl a thrap ar ochrau’r ffordd yn eu gwisgoedd llaes hen ffasiwn. Mewn un cae gwelsom wraig mewn gwisg laes yn gyrru gwedd o bump ceffyl yn trin y tir.

Y noson honno cymerwyd rhan mewn Noson Lawen ynghyd ag aelodau o Gymdeithas Gymraeg Gogledd Canada. Drannoeth aethom i ymweld â phentref Mennonite St Jacob’s lle gwerthai’r ffermwyr eu cynnyrch a’u crefftau – diddorol â dweud y lleiaf. Cawsom hefyd gyflwyniad i ffordd o fyw a chred y bobl hyn. Fin nos cynhaliwyd Cyngerdd Mawreddog yn Eglwys Parkview United yn Stratford gan y côr, y lle yn orlawn, a llawer o dras Cymreig yno. Roedd y côr a Trebor Ll Evans ar eu gorau a’r derbyniad yn un brwdfrydig iawn.

Dydd Sul oedd y diwrnod caletaf i ni gyda’r Gymanfa Ganu fawr – dwy awr o ganu yn y bore a dwy awr eto yn y prynhawn, gyda Bethan yn arwain ac eitemau gan Trebor a’r côr. Fin nos rhaid oedd cael gwlychu pig a chafwyd noson dda mewn tafarn Wyddelig yng nghanol y dref – gyda chanu gwell fyth eto!

Symudwyd i Niagara Falls ar gyfer rhan olaf y daith a galw yn Niagara on the Lake. Dyma le braf a’r tywydd erbyn hyn fel ganol haf – rhyw Fetws y Coed o le, yn denu twristiaid lawer oherwydd y siopau a’r holl flodau yn harddu’r lle. O’n gwesty yn Niagara Falls gallem weld drosodd i’r Amerig a syrthio i gysgu yn swn rhyferthwy’r rhaeadrau anferthol! Dyma dref sydd wedi tyfu’n aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf efo’r casinos anferthol a’r atyniadau twristaidd! Clywyd si fod ambell un wedi mentro gormod ar y byrddau roulette un noson a’i bod yn hen bryd cychwyn am adre! ‘Roedd cael canu yn y Table Rock uwchben y rhaeadr yn wefreiddiol, a chael teithio ar gwch y ‘Maid of the Mist’ i ddannedd y rhaeadr yn fythgofiadwy!

Mwynhawyd y daith gan bawb ac mae ein diolch i Bethan am arwain, Rhian am gyfeilio, Trebor fel unawdydd ac i Dewi am drefnu. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Gôr Bro Aled am ein helpu i chwyddo’r niferoedd – criw cyfeillgar a hwyliog, a diolch i Bleddyn a Berwyn am arwain rhai cyngherddau.

Darllenwch yr hanes ar wefan www.ontariowelshfestival.ca

Newyddion Diweddaraf

Santiago de Compostela

Ein trip diweddaraf oedd i ddinas hynafol Santiago de Compostela yn Galisia, Gogledd Sbaen.  Cawsom yr anrhydedd o ganu yn yr eglwys gadeiriol hardd yno ym mhrif wasanaeth y dydd  i gyfarch y pererinion. Profiad unigryw a bythgofiadwy.   Yna aethom i aros yn Cangas do Morrazo, nepell o Vigo, lle cymerasom ran mewn cyngerdd mawreddog a drefnwyd ar y cyd gan Gôr  Cymysg Coral Lestonnac  a Dawnswyr Lamranzas da Ria o dde

Darllenwch fwy..

*

Digwyddiadau