Wrecsam a Cor Sangerrunde Mittich

Eisteddfod Wrecsam ac Ymweliad Sangerrunde Mittich

Yn Wrecsam eleni (2011) daeth y Côr yn ail yn y gystadleuaeth i gorau rhwng 20-45 mewn nifer a rydym yn falch iawn o'r feirniadaeth galonogol a gafwyd! Gall aelodau'r Côr ei gweld ar y dudalen 'Hysbys'. I fyny bo'r nod a cheisiwn guro corau'r brifddinas y flwyddyn nesaf!

Yn Wrecsam yn y flwyddyn 1977 y bu'r Côr Meibion yn cystadlu gyntaf erioed yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y darn prawf oedd ' Cytgan y Cynllwynwyr' gan Verdi ac roedd swp o gorau yn cystadlu. Ni chafwyd gwobr!

Yr ail wythnos yn Awst, daeth ein cyfeillion o dde Bafaria i Langwm i aros. Côr Meibion Sangerründe Mittich ydi'r côr hwn sydd wedi bod yn ffrindiau i ni ers y flwyddyn 1988. Cynhaliwyd Cyngerdd yn y Neuadd gyda'r 2 gôr meibion a chôr yr Aelwyd yn canu. Llywydd y noson oedd Mrs Iola Jones, Derwydd, Llanfihangel, gynt. Y hi ac Emyr ei gwr oedd yn gyfrifol am ddod a'r ddau gôr meibion at ei gilydd.

Mae'r cyfeillgarwch tyn sydd wedi datblygu rhwng y ddau gôr yn cael ei drysori'n fawr gan y ddwy gymuned er gwaetha'r pellter daearyddol sydd rhyngom

Newyddion Diweddaraf

Santiago de Compostela

Ein trip diweddaraf oedd i ddinas hynafol Santiago de Compostela yn Galisia, Gogledd Sbaen.  Cawsom yr anrhydedd o ganu yn yr eglwys gadeiriol hardd yno ym mhrif wasanaeth y dydd  i gyfarch y pererinion. Profiad unigryw a bythgofiadwy.   Yna aethom i aros yn Cangas do Morrazo, nepell o Vigo, lle cymerasom ran mewn cyngerdd mawreddog a drefnwyd ar y cyd gan Gôr  Cymysg Coral Lestonnac  a Dawnswyr Lamranzas da Ria o dde

Darllenwch fwy..

*

Digwyddiadau