Torrevieja yn Sbaen Cor Meibion Llangwm
Torrevieja yn Sbaen
Sefydlwyd Cor Meibion Llangwm yn ol yn y flwyddyn1930 ac mae wedi parhau ers hynny yn ddi-dor heblaw am doriad yn ystod blynyddoedd y rhyfel. Ym Mai 2005 trefnwyd dathliadau 75 a threfnwyd taith i Sbaen i gynnal cyngherddau.Å´
Cyngerdd Torreviejayn Spain
gyda'r unawdydd Trebor Lloyd Evans
Yr unawdydd oeddTrebor Lloyd Evans, a swynodd y cynnulleidfaoedd bob tro. Gwerthodd ei dei-bo i un o'i edmygwyr - Cymro alltud!
Newyddion Diweddaraf
Santiago de Compostela
Ein trip diweddaraf oedd i ddinas hynafol Santiago de Compostela yn Galisia, Gogledd Sbaen. Cawsom yr anrhydedd o ganu yn yr eglwys gadeiriol hardd yno ym mhrif wasanaeth y dydd i gyfarch y pererinion. Profiad unigryw a bythgofiadwy. Yna aethom i aros yn Cangas do Morrazo, nepell o Vigo, lle cymerasom ran mewn cyngerdd mawreddog a drefnwyd ar y cyd gan Gôr Cymysg Coral Lestonnac a Dawnswyr Lamranzas da Ria o dde